Mae'r achos hwn yn cadarnhau bod gan swyddog gorfodi sifil hawl i arsylwi cerbyd o fewn y cyfnod gras o ddeng munud a ddarperir i fodurwyr sydd wedi talu i barcio. Fodd bynnag, dim ond ar ôl i'r cyfnod gras ddod i ben y gellir gosod y gosb.
Yn ogystal, mae'r achos yn egluro bod talu am sesiwn barcio rhithwir drwy ap yn gyfwerth ag arddangos tocyn talu ac arddangos. Felly, mae hysbysiad tâl cosb a gyhoeddir am fethu â thalu ac arddangos yn disgrifio'r drosedd yn ddigonol.
Mae pwyntiau eraill a drafodwyd yn yr achos hwn yn cynnwys:
- y posibilrwydd y gall mwy nag un cod torri rheolau fod yn berthnasol (yn yr achos hwn, gallai parcio ar ôl i'r amser taledig ddod i ben fod yn berthnasol hefyd)
- yr egwyddor y gall apeliadau eraill a benderfynwyd yn flaenorol fod yn berswadiol, ond nad ydynt yn rhwymo dyfarnwr
- rhybudd na ddylid dibynnu ar enwau achosion a rhifau apêl a geir ar y we i gefnogi apêl, heb ddarparu'r penderfyniad ysgrifenedig llawn i'r Tribiwnlys.