Mae’r achos hwn yn egluro nad yw adolygiad yn gyfle i atgyfnerthu achos a bod y datganiad o wirionedd yn ddigon i ddangos bod camera gorfodi yn dal y dystysgrif gywir, gan ddangos ei fod yn bodloni gofynion Atodlen 1 y Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Dyfeisiau Cymeradwy, Canllawiau Codi Tâl a Darpariaethau Cyffredinol) (Lloegr) 2022. Nid oes angen tystiolaeth bellach sy'n sail i'r dystysgrif neu'r datganiad, neu unrhyw fath o gadwyn dystiolaeth, i fodloni'r safon prawf sifil. Mae gweithrediadau apêl ac adolygu yn wrandawiadau cyhoeddus.