Mae’r achos hwn yn egluro bod yn rhaid i fodurwr sy’n ceisio manteisio ar y cyfnod gostyngiad statudol (50%) wneud taliad o fewn 14 diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad tâl cosb, ac nad yw gwneud sylwadau i’r awdurdod o fewn y cyfnod gostyngiad cychwynnol o 14 diwrnod yn golygu achosi estyniad i'r gostyngiad hwnnw.

Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod codi tâl ymestyn y gostyngiad nac ymateb i'r sylwadau o fewn y cyfnod o 14 diwrnod. Rhaid cyhoeddi'r Hysbysiad Gwrthod Sylwadau o fewn 56 diwrnod i dderbyn sylwadau ffurfiol. Erbyn hyn bydd opsiwn y modurwr o wneud taliad gostyngol wedi dod i ben.