Mae'r achos hwn yn ei gwneud yn glir nad oes terfyn amser ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad tâl cosb am godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd o dan y rheoliadau ac – ar ôl derbyn sylwadau yn erbyn yr hysbysiad tâl cosb – rhaid i'r awdurdod sy'n ceisio gwrthod y sylwadau hynny gyhoeddi Hysbysiad Gwrthod o fewn 56 diwrnod. Rhaid i'r hysbysiad hwnnw gynnwys y wybodaeth ofynnol a fanylir o dan y rheoliadau.
Os na chyflwynir Hysbysiad Gwrthod, ystyrir bod yr awdurdod wedi derbyn y sylwadau. Nid yw ailgyhoeddi'r hysbysiad tâl cosb i ganiatáu cyfnod pellach o ddisgownt yn dileu rhwymedigaeth yr awdurdod i gyhoeddi Hysbysiad Gwrthod dilys mewn ymateb i sylwadau.