Mae'r achos hwn yn ei gwneud yn glir bod ceidwad cofrestredig y cerbyd yn parhau i fod yn atebol i'r cyngor am y gosb sbwriel sifil, hyd yn oed os nad nhw eu hunain a daflodd, a ollyngodd nac a waredodd y sbwriel fel arall.

Mae'r achos hefyd yn cwmpasu'r ffaith bod yn rhaid i'r cyngor brofi bod person yn taflu, yn gollwng neu fel arall yn gwaredu sbwriel o'r cerbyd ac yn ei adael ar dir y mae gan y cyngor ddyletswydd i'w gadw, cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn glir o sbwriel.