Er y gellir caniatáu mynd ar y cerbyd ac oddi arno ar linellau melyn dwbl hyd yn oed pan fo cyfyngiadau aros a llwytho mewn grym, mae'r achos hwn yn egluro mai'r modurwr sydd i brofi ei fod yn gymwys i gael budd yr eithriad – gan stopio dim ond cyhyd ag sy'n angenrheidiol i ganiatáu i deithiwr fynd ar y cerbyd neu oddi arno. Nid yw codi teithiwr yn ymestyn i aros i deithiwr (nad yw yno) gyrraedd.