Mae’r achos hwn yn egluro mai dim ond pan fydd y bathodyn wedi’i arddangos yn glir yn y cerbyd y gall y consesiwn bathodyn glas fod yn berthnasol. Nid yw bathodyn sydd wedi disgyn o'r golwg yn cael ei arddangos yn glir.

Yn fwy cyffredinol, nid oes rhaid i'r cyngor brofi bod modurwr yn bwriadu parcio'n groes, dim ond bod toriad wedi digwydd, ac nid oes gan ddyfarnwyr unrhyw bŵer i gymryd amgylchiadau lliniarol i ystyriaeth.