Dod o hyd i Achosion Allweddol
Pori achosion allweddol gan ddefnyddio'r hidlydd ar gyfer naill ai 'math o dramgwydd' NEU 'Mater'. Fel arall, defnyddiwch y blwch 'Chwilio...' i ddod o hyd i achosion trwy ymholiad personol.
Mae achosion ar y safle ar hyn o bryd parcio, lôn fysiau, traffig yn symud a codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, gan gynnwys Tâl Tagfeydd Llundain a Pharthau Aer Glân (y tu allan i Lundain). Bydd mwy o achosion a mathau o dramgwydd yn cael eu hychwanegu maes o law.






Nodwch os gwelwch yn dda: Mae holl benderfyniadau'r dyfarnwyr sydd wedi'u cynnwys ar y wefan hon yn y parth cyhoeddus. Er eu bod wedi'u curadu gyda'i gilydd yma er hwylustod a diddordeb y defnyddwyr, mae unrhyw wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y penderfyniadau yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y corff dyfarnu gwreiddiol. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch cynnwys achosion hefyd at y corff dyfarnu.
Collais fy apêl – a allaf dalu ar y gyfradd ostyngol 50% o hyd?
Dyddiad y Penderfyniad: 2023-10-12
Na, bydd angen talu'r HTC yn llawn yn awr.
Beth os caiff fy apêl ei gwrthod?
Dyddiad y Penderfyniad: 2023-10-12
Yn dilyn apêl a wrthodwyd, dylid talu'r Rhybudd Talu Cosb i'r awdurdod yn ddi-oed.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir edrych eto ar benderfyniad dyfarnwr. Gellir gwneud hyn trwy wneud cais i adolygu'r penderfyniad.
A allaf adennill costau os bydd fy apêl yn llwyddiannus?
Dyddiad y Penderfyniad: 2023-10-12
Ni ddyfernir costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno apêl fel arfer. Mae eithriadau prin os yw’r dyfarnwr a glywodd eich achos yn ystyried bod yr awdurdod (neu chi) yn afresymol yn ystod achos, neu – fel y’i diffinnir gan y gyfraith – yn ‘flinderus’ neu’n ‘wacsaw’.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy apêl yn erbyn y Rhybudd Talu Cosb yn llwyddiannus?
Dyddiad y Penderfyniad: 2023-10-12
Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, caiff y Rhybudd Talu Cosb ei ganslo ac ni fydd dim i'w dalu.
Mewn amgylchiadau eithriadol, fodd bynnag, gellir edrych eto ar benderfyniad y dyfarnwr os yw'r awdurdod yn gwneud cais i adolygu'r penderfyniad. Gall yr awdurdod ddewis yr opsiwn hwn drwy wneud cais i adolygu'r penderfyniad.
A allaf apelio yn erbyn HTC os na chefais yr hysbysiad cychwynnol oherwydd newid cyfeiriad?
Dyddiad y Penderfyniad: 2023-10-12
Os anfonwyd y Rhybudd Talu Cosb i gyfeiriad y ceidwad cofrestredig yn seiliedig ar fanylion a gafwyd gan y DVLA, nid yw peidio â chael yr hysbysiad yn sail ddilys dros apelio. Dylai'r ceidwad cofrestredig sicrhau bod ei gyfeiriad yn gyfredol yn y DVLA bob amser.