Rhaid talu’r tâl am bob diwrnod y mae cerbyd nad yw’n cydymffurfio yn cael ei ddefnyddio o fewn Parth Aer Glân, naill ai hyd at 6 diwrnod cyn, neu erbyn 11.59pm ar y 6ed diwrnod ar ôl, defnyddio’r cerbyd yn y parth.
Codir tâl bob dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac o hanner nos tan hanner nos (er enghraifft, dylid talu 2 x tâl dyddiol am gerbyd sy'n mynd i mewn i Barth Aer Glân am 11pm ac yn gadael am 1am y bore canlynol.
Dylid talu yng ngwasanaeth Gyrru Mewn Parth Aer Glân GOV.UK, nid i'r awdurdod lleol yn uniongyrchol.