Sylwer: Ni fydd y tribiwnlys yn cysylltu â thystion nac yn casglu tystiolaeth ar eich rhan.
Yn gyntaf, darparwch gopi o unrhyw gyfathrebiad â'r heddlu, gan gynnwys y rhif cyfeirnod trosedd a fydd wedi'i roi i chi. Os nad ydych wedi rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad, eglurwch pam.
Yn ail, rhowch unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth a fydd yn cefnogi eich cyfrif gan gynnwys:
- sut roedd y person a gymerodd y cerbyd yn gallu ei yrru (sut roedd ganddo fynediad i’r cerbyd a’r allweddi)
- a oeddent wedi’u hyswirio i yrru’r cerbyd neu wedi cael caniatâd i’w ddefnyddio o’r blaen (os felly, pryd a sut y cafodd hwn ei ddileu)
- pryd y darganfuoch fod y cerbyd wedi'i gymryd a phryd a sut y cafodd ei ddychwelyd.
Penderfynir ar bob achos ar y dystiolaeth a mater i'r dyfarnwr fydd asesu'r dystiolaeth a ddarperir gennych.