Sylwer: Ni fydd y tribiwnlys yn cysylltu â thystion nac yn casglu tystiolaeth ar eich rhan.
Mae nifer o bethau a all eich helpu i ddangos i'r dyfarnwr bod eich cerbyd wedi'i glonio.
Yn gyntaf, rhowch y rhif cyfeirnod trosedd (dylech riportio cerbyd wedi'i glonio i'r heddlu).
Yn ail, darparwch luniau clir o bob ochr i'ch cerbyd fel y gellir eu cymharu â ffotograffau'r cyngor.
Yn drydydd, mae cerbydau wedi'u clonio fel arfer yn denu cosbau lluosog a gwysion troseddol. Rhowch fanylion yr holl gosbau/gŵys heddlu eraill a dderbyniwyd.
Yn bedwerydd, os oes gennych dystiolaeth o leoliad eich cerbyd ar adeg y tramgwyddiad yna dylid darparu hyn hefyd (er enghraifft tystiolaeth o barcio wedi ei dalu am y cerbyd yn rhywle arall).
Penderfynir ar bob achos ar y dystiolaeth a mater i'r dyfarnwr fydd asesu'r dystiolaeth a ddarperir gennych.