Wrth herio neu apelio yn erbyn Rhybudd Talu Cosb, dylech ddarparu unrhyw dystiolaeth, megis ffotograffau, sy'n ymwneud â'r arwyddion neu'r llinellau nad oeddent yn glir yn eich barn chi a/neu roi esboniad pam.

Mae arwyddion a llinellau yn hysbysu'r modurwr o gyfyngiad ac ni ddylent gamarwain. Fodd bynnag, nid yw bylchau bychan yn gwneud arwydd neu linell yn anorfodadwy. Cyn belled nad yw'r arwydd neu farc yn camarwain ac yn parhau i gydymffurfio'n sylweddol â gofynion y rheoliadau, mae'r cyfyngiad yn orfodadwy.

Gweler Achos Allweddol: R (ar gais Herron and Parking Appeals Limited) v Y Dyfarnwr Parcio ac eraill (2010) a Letts v Bwrdeistref Lambeth Llundain PATAS 1980151656 (1980).