Gall Hysbysiad Tâl Parcio weithiau edrych yn debyg i HTC, ond nid yw yr un peth. Mae wedi cael ei gyhoeddi gan weithredwr preifat, yn hytrach nag awdurdod lleol neu awdurdod codi tâl.

I dalu neu herio cosb parcio preifat, cysylltwch â'r gweithredwr y mae ei fanylion yn ymddangos ar yr hysbysiad a gawsoch. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymdeithas Parcio Prydain.