Mae'r mathau o gerbydau a thaliadau sy'n berthnasol yn amrywio ar gyfer gwahanol Barthau Aer Glân. Gallwch wirio ar wefan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu'r cynllun am y taliadau sy'n berthnasol i gynllun penodol.
Fel arall, defnyddiwch wasanaeth Gyrru Mewn Parth Aer Glân GOV.UK i weld a yw allyriadau eich cerbyd yn golygu y byddech yn atebol i dalu ac (os yw'n berthnasol) gweld y taliadau a fydd yn berthnasol i'r cerbyd a thalu.