Mae cyfarwyddiadau talu fel arfer yn cael eu darparu ar y Rhybudd Talu Cosb ei hun. Fel arfer gallwch dalu ar-lein, dros y ffôn, drwy'r post neu'n bersonol, ac mae gostyngiad o 50% am dalu o fewn 14 diwrnod. Os eir â Rhybudd Talu Cosb drwodd i'r cam apêl a bod yr apêl hon yn aflwyddiannus, bydd swm llawn y gosb yn ddyledus.