Mae’r achos hwn yn nodi “giât fysiau” fel math o lôn fysiau, yn ogystal ag amlygu bod gan y Cyngor ddyletswydd i weithredu’n deg ac ystyried arfer ei ddisgresiwn drwy gydol y broses apelio. Mae hefyd yn amlygu y gall y cyngor ymestyn swm y gosb ostyngol (50%) wrth arfer ei ddisgresiwn, ond nad yw hyn yn orfodol.