Mae gennych 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddwyd y Rhybudd Talu Cosb i'w herio gyda'r awdurdod. Ar gyfer pob Rhybudd Talu Cosb ar wahân i rai a roddwyd ar gyfer tramgwyddau parcio (gweler isod), gelwir yr her hon yn 'gwneud sylwadau'.

Ar gyfer Rhybuddion Talu Cosb a roddir i ffenestr flaen cerbyd neu a roddir i'r gyrrwr, yn achos tramgwyddau parcio, mae'r broses herio yn dechrau gyda Her Anffurfiol i'r awdurdod, cyn y gellir cyflwyno sylwadau.